1. Pwrpas
Mae’r dogfen hon yn pennu’r telerau a’r amodau ar gyfer cyfranogiad yn Gwobrau Podlediadau Cymraeg 2026. Mae’n bwysig i bob cyfranogwr ddarllen a chytuno â’r telerau hyn cyn cyflwyno ceisiadau.
2. Dim Ad-daliad
Ni fydd unrhyw ad-daliad ar ffi’r cais, ni waeth am ba reswm y ceir tynnu’n ôl neu wrthsefyll y cais.
Nid yw ffioedd cofrestru cystadlaethau yn ad-daladwy. Drwy gyflwyno cais, rydych yn cydnabod bod y gwasanaeth yn dechrau ar unwaith ac eich bod yn ildio eich hawl i gyfnod ystyried o 14 diwrnod o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr 2013.
3. Dyddiadau Allweddol
Ceisiadau’n Agor: 31.03.2026 Dyddiad Cau: 31 Mai 2026 Cyhoeddi’r Rhestr Fer: Gorffennaf 2026 Agor pleidleisio Dewis Y Gwrandawyr: Gorffennaf 2026 Seremoni Gwobrau: 6pm, 8 Awst 2026, Y Babell Lên, Eisteddfod y Garreg Las
4. Ffi a Chymhwyso Gostyngol
Unigolion a phodlediadau annibynnol*
1 categori: £15
2 gategori: £20
3 chategori: £25
Sefydliadau masnachol
£50 y cais
*I fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol, rhaid i’r podlediad fod yn annibynnol, heb gyllid masnachol sylweddol, ac nid yn rhan o sefydliad gyda mwy na 10 o weithwyr amser llawn. Os nad ydych yn siŵr os yw’ch busnes/sefydliad yn bodloni’r meini prawf, mae croeso i chi gysylltu – cysylltu@ypod.cymru
Mae’r ffioedd cystadlu yn cynnwys TAW. Os derbynnir unrhyw geisiadau ar ôl 31 Mai, codir ffî ychwanegol o £15 am bob cais.
5. Categorïau Cystadlu
- Podlediad Newydd
- Y Celfyddydau
- Ffeithiol
- Iechyd, Lles a Ffordd o fyw
- Adloniant a Cherddoriaeth
- Chwaraeon
- Podlediad i Ddysgwyr
- Cynnwys Cymunedol
- Cyflwynydd
- Talent Newydd
- Cyfraniad hir oes
- Dewis y gwrandawyr
- Podlediad Y Flwyddyn
Noder: Ni chewch gofrestru podlediad mewn mwy na tri chategori.
6. Gwybodaeth Cyffredinol
Mae’r Gwobrau ar agor i bob podlediad a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg.
Rhaid bod o leiaf chwe pennod gyhoeddus ar gael erbyn diwedd y cyfnod cymhwyster (31 Mai 2026).
7. Rheolau Cystadlu
Rhaid i’r sain o’r ceisiadau fod ar gael i’w lawrlwytho trwy RSS yn ystod y cyfnod cymhwyster, ar Y Pod (ypod.cymru), ac ar ap neu wefan sain/podlediadau.
Rhaid i bob pennod a nodir yn y cais fod ar gael i’w gwrando o 31 Mai 2026 hyd at o leiaf ddiwedd Awst 2026.
Ni chewch gofrestru’r podlediad mewn mwy na tri chategori.
8. Hawliau a Defnydd o’r Cynnwys
Trwy gyflwyno eich podlediad, rydych yn rhoi caniatâd i’r trefnydd ddefnyddio’r cynnwys ar gyfer hyrwyddo’r Gwobrau (ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau print, ac ati).
Nid yw’r trefnydd yn gyfrifol am unrhyw broblemau technegol yn y broses lawrlwytho neu wrando.
9. Derbyn Telerau ac Amodau
Wrth gyflwyno eich cais, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â’r holl delerau uchod.
Ni fydd cais a gyflwynir heb gadarnhad derbyn Telerau ac Amodau yn cael ei brosesu.
