Mae podlediadau yn ffynnu, fel cyfryngau creadigol ac fel sianel fasnachol, ac maent yn siapio’r sgwrs genedlaethol. Mae Gwobrau Podlediadau Cymru yn dathlu’r bobl sydd y tu ôl ac o flaen y meicroffon, gan roi cydnabyddiaeth i bobol creadigol, cynhyrchwyr a cyflwynwyr.
2026 yw’r flwyddyn i ddathlu bodlediadau Cymraeg, cynhelir Gwobrau Podlediadau Cymru mewn partneriaeth gyda …
P’un a ydych yn rhan o sefydliad mawr neu’n bodledwr unigol, mae Gwobrau Podlediadau Cymru yn eich cyfle i ddangos eich sgiliau. Bydd ein panel o feirniaid annibynnol yn chwilio am y gorau yn y diwydiant podlediadau.
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich ceisiadau a dathlu’r amrywiaeth mewn podlediadau Cymraeg.
Dyddiadau Allweddol
- Ceisiadau’n Agor: 31.03.2026
- Dyddiad Cau: 31 Mai 2026
- Cyhoeddi’r Rhestr Fer: Gorffennaf 2026
- Agor pleidleisio Dewis Y Gwrandawyr: Gorffennaf 2026
- Seremoni Gwobrau: 6pm, 8 Awst 2026, Y Babell Lên, Eisteddfod y Garreg Las
Categorïau
- Podlediad Newydd
- Y Celfyddydau
- Ffeithiol
- Iechyd, Lles a Ffordd o fyw
- Adloniant a Cherddoriaeth
- Chwaraeon
- Podlediad i Ddysgwyr
- Cynnwys Cymunedol
- Cyflwynydd
- Talent Newydd
- Cyfraniad hir oes
- Dewis y gwrandawyr
- Podlediad Y Flwyddyn
Ffioedd Cystadlu
Unigolion a phodlediadau annibynnol*
1 categori: £25
2 gategori: £40
3 chategori: £50
Sefydliadau masnachol
£50 y cais, fesul categori
*I fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol, rhaid i’r podlediad fod yn annibynnol, heb gyllid masnachol sylweddol, ac nid yn rhan o sefydliad gyda mwy na 10 o weithwyr amser llawn. Os nad ydych yn siŵr os yw’ch busnes/sefydliad yn bodloni’r meini prawf, mae croeso i chi gysylltu – cysylltu@ypod.cymru
Mae’r ffioedd cystadlu yn cynnwys TAW. Os derbynnir unrhyw geisiadau ar ôl 31 Mai, codir ffî ychwanegol o £15 am bob cais.
Gwybodaeth Gyffredinol
Mae Gwobrau Podlediadau Cymru ar agor i bob podlediad a gynhyrchwyd ac a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg.
Rhaid bod eich podlediad gyda o leiaf chwe pennod gyhoeddus erbyn diwedd y cyfnod cymhwyster – 31 Mai 2026.
Y Rheolau
- Rhaid i’r sain o’r ceisiadau fod ar gael i’w lawrlwytho trwy RSS yn ystod y cyfnod cymhwyster, a fod ar gael ar wasanaeth Y Pod (ypod.cymru) ac ar gael ar ap neu wefan sain / podlediadau.
- Rhaid i bob pennod a nodir yn y cais fod ar gael i’w gwrando o 31 Mai 2026 hyd nes o leiaf ddiwedd Awst 2026.
- Ni chewch gofrestru’r podlediad mewn mwy na thri chategori – dewiswch y categorïau sy’n adlewyrchu’ch cyfres orau ac yn helpu cynulleidfaoedd newydd i’ch darganfod.
Eisiau mwy o wybodaeth?
Lawrlwythwch y pecyn cais am fwy o wybodaeth.
