Diolch am eich cefnogaeth

Hoffwn ddiolch i’r cwmnïau isod am eu cefnogaeth a chymorth ar gyfer sicrhau bod Gwobrau Podlediadau Cymraeg 2026 cyntaf Cymru yn mynd yn ei blaen.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Yr Eisteddfod yw gŵyl deithiol fwyaf Ewrop ac eleni, rydyn ni’n dathlu carreg filltir anhygoel, sef 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf.
Eisteddfod y Garreg Las – 1-8 Awst 2026.

Caerdydd Creadigol

Caerdydd Creadigol / Creative Cardiff
Mae Caerdydd Creadigol yn rhwydwaith ar gyfer gweithwyr llawrydd a busnesau yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Nghaerdydd a’r rhanbarth, yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd i gysylltu, gydweithio, ac i greu a rhannu cyfleoedd i gefnogi sector cynialadwy.

Libera Digidol

Libera Digital

Ry’n ni’n gwmni marchnata a chyfryngau a sefydlwyd yn 2023, yn arbenigo mewn cynnwys digidol ar gyfer teledu a diwylliant.

Mae gan ein tîm gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol ar gyfer sectorau amrywiol, gan gynnwys darlledu, elusennau, y trydydd sector, digwyddiadau, chwaraeon, a phrofiad helaeth o weithio ar ymgyrchoedd dwyieithog i gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru.

Mae ein rhestr cleientiaid yn cynnwys rhai o sefydliadau a brandiau dwyieithog mwyaf blaengar Cymru, gan gynnwys S4C, BBC Studios, BBC Cymru Wales, Tinopolis, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Mentera, Plaid Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mudiad Meithrin a mwy.

Comisynydd Y Gymraeg

Comisiynydd Y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynyddu cyfleoedd i siaradwyr ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. 

Accordion Innovation

Accordion Innovation

Mae Accordion yn ddarn newydd o dechnoleg podlediad sy’n caniatáu i wrandawyr reoli’r hyd. Dim mwy o wrandawiadau anghyflawn nac episodau wedi’u colli. Mae Accordion yn ail-fersiynu episodau podlediad yn ddeinamig fel eu bod yn ffitio’n berffaith i’r amser sydd gan y gwrandäwr… tra’n cadw strwythur, tôn a theimlad y gwreiddiol. Mae Accordion yn datrys problem ‘gormod o bodlediadau, dim digon o amser’.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg

Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg.

Mae cyrsiau ar gael yn ystod y dydd a gyda’r hwyr, ar wahanol lefelau rhuglder: Mynediad (ar gyfer dechreuwyr); Sylfaen; Canolradd; Uwch a Gloywi.

Mae cyrsiau dan arweiniad tiwtor ar gael mewn dosbarthiadau rhithiol a rhai wyneb-yn-wyneb.

Trafnidiaeth Cymru

Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae’n bodoli i hyrwyddo gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel, diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.

Mae TrC yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio drwy wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau. I wneud hyn, mae TrC yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig amlfoddol o’r enw Rhwydwaith T. Fe’i cynlluniwyd i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar drên, bws, cerdded a beicio.

Gyda threnau newydd sbon, mwy o wasanaethau rheilffordd ac amserlenni a seilwaith gwell, mae TrC eisoes yn trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Ond, mae mwy i ddod.

Mae TrC yn gwella gwasanaethau bysiau, yn ehangu rhwydwaith TrawsCymru ac yn darparu cysylltiadau bysiau hanfodol mewn mannau nad yw’r rheilffordd yn eu cyrraedd. Mae TrC yn gweithio gyda chynghorau lleol a phartneriaid eraill i ehangu mynediad at lwybrau cerdded, olwynion a beicio diogel ar hyd a lled Cymru, ac yn cefnogi teithio ymlaen ar droed neu feic.

Undeb Cymru a’r Byd

Undeb Cymru a'r Byd

Mae Undeb Cymru a’r Byd yn sefydliad sy’n cysylltu Cymry a chyfeillion Cymru ledled y byd, gan hyrwyddo’r Gymraeg, diwylliant Cymru a’n straeon cenedlaethol ar lwyfan rhyngwladol. Trwy ddigwyddiadau, a’n cylchgrawn dwyieithog Yr Enfys, mae’r mudiad yn dathlu creadigrwydd Cymreig ac yn cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau Cymraeg ym mhob cwr o’r byd.

Audiotrain from audioUK

audiotrain from audioUK

Mae Audiotrain yn blatfform sgiliau a hyfforddi AudioUK sydd wedi’i neilltuo i godi’r safon yn y diwydiant podlediad a sain; o lefel mynediad i arweinyddiaeth; sain i fideo; marchnata i ariannu; cynhyrchu i hyrwyddo, naratif, o brosiectau comisiynwyd i annibynnol, a phopeth rhyngddynt.

Hoot Studios

Hoot Studios

Cyfleuster recordio llais ac ôl-gynhyrchu sain llawn wedi’i leoli yng Nghaerdydd, gyda’r profiad, creadigrwydd a’r dechnoleg i greu sain enillodd wobrau i gleientiaid.

Cymen

Cymen Cyf

Cwmni cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Meddwl.org

Gwefan Meddwl

Mae gan bawb iechyd meddwl

Gwefan sydd yn lle i gael gwybodaeth, profiadau ac adnoddau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Golwg Cyf

Golwg

Gyda 38 mlynedd o arbenigedd ym maes cyfathrebu, Cwmni Golwg ydy’r prif gyhoeddwr newyddiaduraeth annibynnol yn y Gymraeg.

Yn ogystal â chynhyrchu cylchgrawn materion cyfoes, cylchgrawn i ddysgwyr a chomic i blant, rydym yn rhedeg gwasanaeth newyddion digidol golwg360, yn cefnogi rhwydwaith o wefannau bro, yn cynnal prosiectau cymunedol ac yn darparu gwasanaethau creadigol i gleientiaid ar hyd a lled Cymru.