1. Pwrpas y Polisi
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut mae Gwobrau Podlediadau Cymraeg yn casglu, defnyddio ac amddiffyn gwybodaeth bersonol cyfranogwyr, cystadleuwyr a rhanddeiliaid. Rydym yn cymryd preifatrwydd a diogelu data’n ddifrifol ac yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR).
2. Data a Gasglwn
Gallwn gasglu’r canlynol:
- Enw a manylion cyswllt (e-bost, ffôn)
- Gwybodaeth am y podlediad (enw, gwefan, e-bost cyswllt, pwrpas y cyfraniad)
- Data a ddarperir wrth gofrestru ar ffurflenni ar-lein
- Data cyfathrebu gyda’r tîm Gwobrau (e.e. ymholiadau, cyfathrebu post/e-bost)
3. Sut Rydym yn Defnyddio Data
Defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol:
- Cofrestru cyfranogwyr a cystadleuwyr
- Cyfathrebu am y gwobrau, enwebiadau, a diweddariadau
- Cyhoeddi enillwyr a chyfathrebu gyda’r cyfryngau (os yw hyn wedi’i ganiatáu)
- At ddibenion marchnata a hyrwyddo’r Gwobrau Podlediadau Cymraeg, ond dim ond os ydych wedi rhoi caniatâd clir
4. Caniatâd
Wrth gofrestru ar gyfer y gwobrau, rydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich data fel y nodir yn y polisi hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd unrhyw bryd trwy gysylltu â ni ar: cysylltu@ypod.cymru.
5. Diogelu Data
Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel:
- Wedi’i storio ar gyfrifiaduron a gwasanaethau diogel
- Mynediad wedi’i gyfyngu i aelodau tîm y Gwobrau sy’n ei hangen
- Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data i drydydd partïon
6. Rhannu Data
Gallwn rannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon os oes angen i gyflawni’r gwobrau (e.e. cwmnïau postio, gweithwyr gweinyddol, partneriaid marchnata). Bydd unrhyw drydydd partïon yn gorfod cydymffurfio â GDPR.
7. Hawliau Cyfranogwyr
Mae gan bob cyfranogwr yr hawliau canlynol:
- Gwybod pa ddata sydd gennym amdanynt
- Diwygio neu gywiro eu gwybodaeth
- Gofyn i ni ddileu eu data
- Tynnu caniatâd i dderbyn marchnata unrhyw bryd
I wneud hyn, cysylltwch â ni.
8. Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn trin eich data bersonol, cysylltwch â ni.
