1. Pwrpas
Mae’r dogfen hon yn pennu’r telerau a’r amodau ar gyfer cyfranogiad yn Gwobrau Podlediadau Cymraeg 2026. Mae’n bwysig i bob cyfranogwr ddarllen a chytuno â’r telerau hyn cyn cyflwyno ceisiadau.
2. Dim Ad-daliad
Ni fydd unrhyw ad-daliad ar ffi’r cais, ni waeth am ba reswm y ceir tynnu’n ôl neu wrthsefyll y cais.
Nid yw ffioedd cofrestru cystadlaethau yn ad-daladwy. Drwy gyflwyno cais, rydych yn cydnabod bod y gwasanaeth yn dechrau ar unwaith ac eich bod yn ildio eich hawl i gyfnod ystyried o 14 diwrnod o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr 2013.
3. Dyddiadau Allweddol
Agor ceisiadau: 31 Mawrth 2026
Dyddiad cau: 22 Mai 2026
Cyhoeddi’r rhestr fer: Gorffennaf 2026
Seremoni Gwobrau: 8 Awst 2026, Y Babell Len, Eisteddfod y Garreg Las
4. Ffi a Chymhwyso Gostyngol
Ffi Cystadlu Safonol: £60 y cais (yn cynnwys TAW)
Cyfradd Gostyngol: £25 y cais*
Ffi Hwyr: Ceisiadau a dderbynnir ar ôl 22 Mai 2026 – £15 ychwanegol
*I fod yn gymwys am y cyfradd gostyngol, rhaid i’r ymgeisydd fod:
1. Podledwr annibynnol neu’n llawrydd
2. Rhoi manylion rhif elusen wedi’i gofrestru yn y DU, neu fod yn rhan o sefydliad gyda llai na 10 o weithwyr amser llawn
5. Categorïau Cystadlu
1. Podlediad Newydd
2. Celf a Diwylliant
3. Ffeithiol
4. Stori Eithriadol
5. Adloniant a Cherddoriaeth
6. Cyfweliad
7. Podlediad i Ddysgwyr
8. Cynnwys Cymunedol
9. Cyflwynydd
10. Talent Newydd
11. Cyfraniad Hir Oes
12. Dewis y Gwrandawyr
13. Podlediad Y Flwyddyn
Noder: Ni chewch gofrestru podlediad mewn mwy na tri chategori.
6. Gwybodaeth Cyffredinol
Mae’r Gwobrau ar agor i bob podlediad a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg.
Rhaid bod o leiaf chwe pennod gyhoeddus ar gael erbyn diwedd y cyfnod cymhwyster (22 Mai 2026).
7. Rheolau Cystadlu
Rhaid i’r sain o’r ceisiadau fod ar gael i’w lawrlwytho trwy RSS yn ystod y cyfnod cymhwyster, ar Y Pod (ypod.cymru), ac ar ap neu wefan sain/podlediadau.
Rhaid i bob pennod a nodir yn y cais fod ar gael i’w gwrando o 22 Mai 2026 hyd at o leiaf ddiwedd Awst 2026.
Ni chewch gofrestru’r podlediad mewn mwy na tri chategori.
8. Hawliau a Defnydd o’r Cynnwys
Trwy gyflwyno eich podlediad, rydych yn rhoi caniatâd i’r trefnydd ddefnyddio’r cynnwys ar gyfer hyrwyddo’r Gwobrau (ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau print, ac ati).
Nid yw’r trefnydd yn gyfrifol am unrhyw broblemau technegol yn y broses lawrlwytho neu wrando.
9. Derbyn Telerau ac Amodau
Wrth gyflwyno eich cais, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno â’r holl delerau uchod.
Ni fydd cais a gyflwynir heb gadarnhad derbyn Telerau ac Amodau yn cael ei brosesu.
